top of page

ENCIL GWANWYN

ATLAS & SAHARA
Morocco

10 noson · Merched yn unig · Welsh & English

6 - 16   MAWRTH   2027 

Encil Gwanwyn

O MARRAKECH I'R SAHARA

10 noson  · un daith drwy galon Morocco

Byddwn yn teithio o Marrakech, dros fynyddoedd yr Atlas ac ymlaen drwy oasis Skoura a dyffrynnoedd Dades, cyn cyrraedd twyni’r Sahara.

Ar hyd y ffordd bydd yoga, cerdded, crochenwaith, bwyd a cherddoriaeth leol, hammam, amser gyda phobl leol — ac, yr un mor bwysig, digon o amser i orffwys a gwneud dim byd o gwbl.

Nid taith arferol o amgylch Moroco yw hon. Ac nid encil arferol chwaith.

Dyma gyfle i brofi Moroco yn arafach — gydag Awen ac Enaid, mewn grŵp bach o ferched.

 WELSH-LED   &   BILINGUAL —  NON -WELSH   SPEAKERS  ARE  WARMLY  WELCOME

Elen Haf & Elen Aalla
Dwy Elen. Un encil

Elen Haf & Elen Aalla

Ar ôl dau Encil arbenning, rydyn yn barod am antur newydd — y tro hwn o Fynyddoedd yr Atlas yr holl ffordd i'r Sahara.

Mae Elen Haf yn dod â yoga, symudiad a'r gofod i arafu, anadlu ac ailgysylltu.

Mae Elen Aalla, sydd wedi byw ym Moroco ers blynyddoedd, yn dod â'i gwybodaeth leol, ei chysylltiadau a'i chariad at y wlad — gan fynd â ni y tu hwnt i'r llwybr twristaidd ac yn nes at bobl, llefydd a phrofiadau go iawn.

Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi creu Encil Gwanwyn i fod yn gymysgedd o yoga, antur, creadigrwydd, diwylliant ac amser i chi'ch hun — gyda digon o hwyl ar hyd y ffordd.

MWY  NA  GWYLIAU  ·  PROFIAD  ·  CYSYLLTU  ·  ARAFU

11   DIWRNOD   I   10   NOSON

O Marrakech, dros Fynyddoedd yr Atlas ac ymlaen i’r Sahara.
Bydd yoga a myfyrdod yn rhan o rythm pob dydd — sesiwn bob bore a gyda’r nos, wedi’u plethu o amgylch ein taith a’r llefydd rydyn ni’n aros.

DIWRNOD 1 · 6 MAWRTH
MARRAKECH
Croeso i Morocco

  • Cyrraedd Marrakech 

  • Trosglwyddo i’n riad

  • Swper ysgafn a chyfle i ymgartrefu

  • Ein noson gyntaf gyda’n gilydd


DIWRNOD 2 · 7 MAWRTH
MARRAKECH → AÏT BEN HADDOU
Dros Fynyddoedd yr Atlas

  • Yoga a myfyrdod yn y bore

  • Gadael Marrakech a theithio dros Fynyddoedd yr Atlas

  • Digon o amser i stopio a mwynhau’r golygfeydd ar hyd y ffordd

  • Cyrraedd Aït Ben Haddou a chael amser i grwydro ac archwilio y pentref ar Kasbah

  • Yoga a myfyrdod gyda’r nos

  • Swper a noson yn Aït Ben Haddou


DIWRNOD 3 · 8 MAWRTH
AÏT BEN HADDOU → SKOURA
Amser i arafu

  • Yoga a myfyrdod yn y bore

  • Bore hamddenol cyn teithio ymlaen i oasis Skoura

  • Ymweld a Kasbah Amridil

  • Ymgartrefu yn ein kasbah am ddwy noson

  • Amser i orffwys a mwynhau’r lle

  • Yoga a myfyrdod gyda’r nos

  • Swper gyda’n gilydd


DIWRNOD 4 · 9 MAWRTH
SKOURA
Beicio · Creu · Cysylltu

  • Yoga a myfyrdod yn y bore

  • Taith feicio drwy oasis Skoura, y palmwydd a’r pentrefi

  • Cinio gyda theulu lleol

  • Gweithdy crochenwaith

  • Amser rhydd i orffwys a mwynhau’r kasbah

  • Yoga a myfyrdod gyda’r nos

  • Swper gyda’n gilydd


DIWRNOD 5 · 10 MAWRTH
SKOURA → DADES
Allan i’r dirwedd

  • Yoga a myfyrdod yn y bore

  • Gadael Skoura a theithio ymlaen i Dades

  • Taith gerdded drwy dirwedd drawiadol Monkey Fingers

  • Amser i fwynhau Dyffryn Dades a’r mynyddoedd o’n cwmpas

  • Yoga a myfyrdod gyda’r nos

  • Swper a noson yn Dades


DIWRNOD 6 · 11 MAWRTH
DADES → TODRA → Y SAHARA
O’r ceunentydd i’r anialwch

  • Yoga a myfyrdod yn y bore

  • Teithio drwy Dades ac ymlaen i Geunant Todra

  • Amser i gerdded ac archwilio’r ceunant

  • Stop ym Merzane, pentref Baha, am de ac amser gyda’r merched lleol

  • Parhau drwy’r dirwedd nes cyrraedd y Sahara

  • Ymgartrefu yn ein riad yn Merzouga

  • Yoga a myfyrdod gyda’r nos

  • Swper gyda’n gilydd


DIWRNOD 7 · 12 MAWRTH
Y SAHARA
Cerddoriaeth · Bwyd · Amser

  • Yoga a myfyrdod yn y bore

  • Ymweld â Khamlia a phrofi cerddoriaeth draddodiadol Gnawa

  • Cinio M’founa — pizza Berber lleol

  • Prynhawn rhydd i orffwys a mwynhau’r Sahara

  • Quad biking dewisol i’r rhai sydd eisiau ychydig mwy o antur

  • Yoga a myfyrdod gyda’r nos

  • Swper a noson arall yn ein riad


DIWRNOD 8 · 13 MAWRTH
I MEWN I’R TYWOD
Machlud · Camelod · Sêr

  • Yoga a myfyrdod yn y bore

  • Bore araf ac amser rhydd

  • Mynd allan i dwyni’r Sahara yn ddiweddarach yn y dydd

  • Taith camel drwy’r twyni

  • Gwylio’r haul yn machlud dros yr anialwch

  • Yoga a myfyrdod yng nghanol tawelwch y Sahara

  • Swper, cerddoriaeth ac amser o amgylch y tân

  • Noson yn ein camp dan y sêr


DIWRNOD 9 · 14 MAWRTH
SAHARA → MARRAKECH
Un bore olaf yn yr anialwch

  • Yoga a myfyrdod boreol yn y Sahara

  • Brecwast yn y camp

  • Gadael yr anialwch a theithio i Errachidia

  • Hedfan yn ôl i Marrakech — yn lle treulio diwrnod cyfan yn y car

  • Dychwelyd i’n riad ac amser i ymlacio

  • Yoga a myfyrdod gyda’r nos

  • Swper gyda’n gilydd


DIWRNOD 10 · 15 MAWRTH
MARRAKECH
Diwrnod olaf i arafu

  • Yoga a myfyrdod yn y bore

  • Bore rhydd i grwydro’r medina, siopa, cael coffi neu wneud dim byd o gwbl

  • Prynhawn o hammam a massage traddodiadol

  • Yoga a myfyrdod olaf gyda’n gilydd

  • Ein noson olaf yn Marrakech

  • Swper olaf allan gyda’n gilydd


DIWRNOD 11 · 16 MAWRTH
MARRAKECH → ADREF
Tan y tro nesaf...

  • Yoga a myfyrdod olaf yn y bore

  • Amser i baratoi a ffarwelio â Marrakech

  • Trosglwyddo i’r maes awyr

  • Hedfan adref





 

ChatGPT Image Sep 8, 2026 at 12_38_15 PM.png

PRIS  A  THALIADAU

£1695  y person yn rhannu ystafell twin

Ystafell sengl ar gael am £350 ychwannegol

BLAENDAL

Blaendal  o  £300  i  sicrhau  eich  lle.

CYNLLUN  TALU

£465           6  Rhagfyr  2026

£300            a'r archebu

£465           6  Chwefror  2027

£465           6  Ionawr  2027

Mae opsiynau talu mwy hyblyg ar gael hefyd — cysylltwch â ni os hoffech drefnu cynllun talu gwahanol.

Gallwch  hefyd  dalu  y  balans  yn  llawn  unrhyw  bryd.

WEDI'I GYNNWYS

10 noson o lety

Brecwast bob dydd

Swper bob nos, gan gynnwys swper ysgafn ar y noson gyntaf, heblaw am y ddwy noson olaf ym Marrakech

Yoga a myfyrdod bob dydd

Yr holl gludiant preifat yn ystod yr Encil

Ymweliad ag Aït Ben Haddou

Taith feicio drwy oasis Skoura

Cinio gyda theulu lleol yn Skoura

Gweithdy crochenwaith

Taith gerdded Monkey Fingers gyda thywysydd lleol

Ymweliad â Todra Gorge

Ymweliad â Merzane a chyfle i dreulio amser gyda merched lleol

Ymweliad â Khamlia a cherddoriaeth Gnawa

Taith camel drwy’r twyni

Noson mewn camp moethus yn y Sahara

Hammam a massage ym Marrakech

HEB EI GYNNWYS

Hediadau i ac o Marrakech

Hedfan Errachidia → Marrakech

Cinio, heblaw am y cinio gyda theulu lleol yn Skoura

Swper ar y ddwy noson olaf ym Marrakech

Diodydd

Quad biking dewisol

Tips

Yswiriant teithio

Gwariant personol

ChatGPT Image Sep 8, 2026 at 03_18_35 PM.png
bottom of page